Datganiad Hygyrchedd
Rydym ni'n ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan ni yn hygyrch i bob aelod o gymdeithas
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Llwybr Arfordir Cymru
Sut mae defnyddio’r wefan hon
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i bawb allu cael mynediad i'n gwefannau. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- llywio'r rhan fwyaf o'r safle mewn trefn resymegol gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio i gynnwys tudalen yn gyflym gan ddefnyddio bysellfwrdd, darllenydd sgrin neu'r ddau drwy'r ddolen ‘neidio i’r prif gynnwys' sydd ar frig pob tudalen
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r safle gan ddefnyddio darllenydd sgrin (mae ein profwyr wedi cael llwyddiant mawr gyda NVDA)
- defnyddio'r ffocws gweladwy a ddarperir ar draws y safle i helpu i lywio i'r rhan fwyaf o dudalennau ac elfennau o'r safle (ac eithrio mapiau)
- defnyddio chwyddwr eich porwr i chwyddo’r dudalen hyd at 200% heb i'r testun oferu oddi ar y sgrin
- cael gwared â steilio a llywio'r safle mewn trefn resymegol
Rydym yn gweithio i wneud testun y wefan yn hawdd i'w ddeall. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein teithiau cerdded ar gael fel tudalen we hygyrch ochr yn ochr â fformat y gellir ei lawrlwytho.
Gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwefannau hyn yn gwbl hygyrch, er enghraifft:
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau’n hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin, mae hyn yn cynnwys ein hadroddiadau, canllawiau brandio, pecyn cynfryngau yn Portable Document Format (PDF).
- nid oes yr un o'n mapiau yn hygyrch ac nid ydynt yn cynnwys dewis testun amgen yn y rhan fwyaf o achosion
- nid yw rhai dolenni ar ein gwefan yn hunanesboniadol ar gyfer defnyddiwr darllenydd sgrin
- Mae mwy o broblemau datblygu yn parhau a chafodd y rhain eu mireinio a’u hychwanegu at yr ôl-groniad yr ydym yn gweithio drwyddo ar hyn o bryd.
Gwybodaeth gyswllt ac adborth
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi o un o’n gwefannau mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)
- e-bostiwch ymholidau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- ysgrifennwch aton ni:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r gwefan yma
Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y gwefannau hyn. Os byddwch chi’n dod ar draws problemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen neu os nad ydych chi’n meddwl ein bod ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch Dîm Digidol CNC digidol@naturalresourceswales.gov.uk
Y weithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwefannau hyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
gellir defnyddio map rhyngweithiol Llwybr yr Arfordir yn unig gyda llygoden neu drwy dapio a sweipio gyda’ch bys
• mae’r taflenni wedi eu dylunio ar gyfer eu hargraffu
• cafodd y tablau pellter eu llunio i’ch helpu i groesgyfeirio lleoliadau i ganfod y pellterau rhyngddynt er mwyn eich helpu i gynllunio eich ymweliad
Mae’r cynnwys isod wedi’i anelu at ein partneriaid a rhanddeiliaid â diddordeb ar gyfer cyfleoedd i gydweithio neu ar gyfer gwaith ymchwil ac o’r herwydd ni fwriedir ef i’w ddefnyddio gan y cyhoedd:
• pecyn cyfryngau
• adroddiadau
• canllawiau brandio
• dehongli canllawiau Llwybr Arfordir Cymru
• pecyn cymorth marchnata
Fodd bynnag, byddwn yn adolygu’r cynnwys hwn i weld a ellir trefnir mynediad iddynt.
Diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau hygyrchedd
Rydym yn parhau i weithio i ddatrys y problemau hygyrchedd hyn drwy sicrhau fod testun ein gwefan yn glir ac yn hawdd i’w ddeall a bod y strwythur yn rhesymegol.
Dogfennau canllaw
Crëwyd y rhan fwyaf o’n canllawiau cyn Medi 2018 ac maen nhw wedi cael eu cyhoeddi mewn fformat Word, Excel neu PDF. Nid yw nifer o’r dogfennau hyn wedi eu fformatio fel eu bod nhw’n hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2.
Cyhoeddir canllawiau newydd fel gwe-dudalennau pan fo’n bosibl, a dylai unrhyw ddogfennau rydyn ni’n eu cyhoeddi fodloni safonau hygyrchedd.
Ffurflenni cais
Nid oes gennym ffurflenni ymgeisio ar ein gwefan
Dolenni
Rydyn ni’n ymwybodol o'r problemau canlynol gyda'r dolenni ar ein safle:
- mae rhywfaint o destun dolenni nad yw’n gwneud synnwyr wrth ei ddarllen ar ei ben ei hun, er enghraifft 'cliciwch yma'
- mae llawer o ffeiliau PDF hŷn yn cynnwys dolenni wedi torri
Rydyn ni’n cynnal archwiliadau rheolaidd o unrhyw ddolenni sydd newydd dorri ar ein tudalennau gwe, ac yn eu trwsio cyn gynted ag y cânt eu nodi.
Ni fyddwn yn trwsio dolenni sydd wedi torri mewn dogfennau a gyhoeddwyd cyn Medi 2018, os nad yw'n hanfodol i ddefnyddiwr gael mynediad at wasanaeth.
Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein dolenni’n bodloni safonau hygyrchedd.
Mapiau sydd wedi eu mewnblannu ar ein wefan
Nid yw’n bosibl cael mynediad i fap rhyngweithiol llwybr yr arfordir. Nid oes dewis arall hygyrch ar hyn o bryd a byddwn yn chwilio am ddulliau eraill o ddarparu’r testun.
Papurau a chofnodion o gyfarfodydd cyhoeddus ar ôl Medi 2018
Nid ydym yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus felly nid oes papurau a chofnodion yn cael eu cyhoeddi.
Dogfennau ymchwil ac adroddiadau
Nid yw rhai adroddiadau a dogfennau technegol a gyhoeddwyd ar ôl Medi 2018 yn ddogfennau hygyrch, a gallant gynnwys:
- fformatio a allai achosi problemau, er enghraifft defnyddio tablau heb ddisgrifiadau labeli
- delweddau heb destun amgen, felly nid yw'r wybodaeth ynddyn nhw ar gael i bobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1.
- mae rhai delweddau mewn PDFs yn cynnwys testun (er enghraifft, diagramau gyda siartiau neu graffiau), felly ni fydd pobl â dyslecsia neu bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin yn gallu darllen y wybodaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.5 (Delweddau o Destun).
Rydyn ni wedi ceisio gwneud dogfennau ymchwil ac adroddiadau o fis Medi 2019 mor hygyrch â phosibl.
Adborth
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen Rhowch Eich Adborth i ni i ddisgrifio eich profiad. Gallwch ddarganfod y ddolen ar waelod pob gwedudalen.
Cynnwys nad yw yn nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid ydyn ni’n bwriadu trwsio’r canlynol, gan eu bod wedi eu heithrio yn y rheoliadau.
Dogfennau hŷn
Nid yw'r rhan fwyaf o'n PDFs hŷn, ffeiliau Excel a dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydyn nhw wedi eu strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 a maen prawf llwyddiant 4.1.2.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau
Er nad oes gofyn inni sicrhau fod mynediad ar gael i hen ddogfennau, byddwn yn adolygu’r cynnwys canlynol:
- adroddiadau
- dehongli canllawiau llwybr yr arfodir
- pecyn cyfryngau
- tablau pellter
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wrthi’n chwilio am ffordd o wella hygyrchedd ar ein gwefan. Dyma rai o’r agweddau yr ydym yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf i sicrhau fod ein gwefan yn fwy hygyrch.
- Parhau i sicrhau fod dogfennau sydd wrthi’n cael eu defnyddio ar gael mewn fformat hygyrch
- Parhau i adolygu rhannau o’r wefan ac ailysgrifennu er mwyn sicrhau fod yr iaith yn glir
- Mireinio a thrwsio'r problemau sy'n weddill o ran datblygiad gwe gyda'n templedi
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Mis Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 22 Mis Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2020. Cynhaliwyd profion gan Zoonou ac mae profwyr mewnol yn parhau i gynnal profion wrth i ni symud ymlaen gyda gwaith i ddatrys problemau a nodwyd.
Defnyddiodd y profwyr sampl gynrychioliadol o'r gwefannau fel y'u diffinnir gan Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth â Hygyrchedd Gwefannau.
Profodd ein partner prawf y safle hwn drwy adolygu URLau cynrychioliadol o'r holl dempledi yn ogystal â darparu canlyniadau sgan o'r safle cyfan i adrodd am broblemau y gellid eu canfod drwy awtomeiddio.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio SiteMorse i redeg sganiau awtomataidd o ddolenni wedi torri a thestun amgen coll ar gyfer problemau delweddau yn rheolaidd.