Siop
Nwyddau swyddogol bellach ar gael i’w prynu
Ble gallwch brynu’r nwyddau
Gallwch brynu ein holl nwyddau swyddogol ar-lein o ein Siop Llwybr Arfordir Cymru
Streiciau’r Post Brenhinol
Disgwylir sawl streic gan y Post Brenhinol yn ystod mis Rhagfyr 2022 (9, 14 a 15). Felly, byddwch yn ymwybodol y bydd rhywfaint o oedi gyda’r post ar ddyddiau’r streic neu’n uniongyrchol wedi hynny. Archebwch cyn gynted â phosibl i’n helpu i ddosbarthu cyn y Nadolig.
DYDDIAD OLAF AR GYFER POSTIO CYN Y NADOLIG
Y dyddiad olaf ar gyfer postio cyn y Nadolig yw 14 Rhagfyr. Archebwch cyn 4pm os gwelwch yn dda.
Beth sydd ar gael y Nadolig hwn
Casgliad newydd ‘Dillad Cynnes’
Holl ddiben ein casgliad newydd yw eich cadw chi’n gynnes braf, boed chi’n crwydro’r llwybr neu beidio.
O’n hwdis cul meddal a’n capiau cynnes i sgarffiau trwchus cyfforddus – mae’r casgliad hwn yn fodern ac yn gynnes – yr union beth ar gyfer y teithiau cerdded Nadoligaidd ‘na ar y llwybr. Bydden nhw hefyd yn ardderchog ar eich teithiau cerdded ar y llwybr y flwyddyn nesaf! Pori ein casgliad "Dillad Cynnes"
Yr anrheg Lwc Dda berffaith
Bendith Llwybr Arfordir Cymru yw ein neges lwc dda ar gyfer eich holl deithiau cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru yn y dyfodol.
Mae’r gerdd ‘Bendith’ yn llawn ysbrydoliaeth ac emosiwn ac wedi’i chyfansoddi gan Ifor Ap Glyn, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru.
Gwrandewch ar Fendith Llwybr Arfordir Cymru
Mae’r geiriau hyn wedi eu hanfarwoli yn ein casgliad Bendith, sydd ar gael mewn print, ar grys-T ac ar lyfr nodiadau - gobeithio y byddant yn parhau i’ch ysbrydoli i gerdded ar y llwybr a thu hwnt. Pori casgliad ‘Bendith’
Gwobrwyo eich ymdrechion
Mae eich amser ar y llwybr yn gamp wych, o gerdded milltir i gerdded y llwybr 870 milltir yn ei gyfanrwydd – mae’n cymryd amser, gwaith caled ac ymroddiad. Ein cofroddion yw’r ffordd berffaith o gofio eich amser arbennig ar y llwybr. Gwisgwch eich hwdi Llwybr Arfordir Cymru â balchder ac ewch ag elfen o’r llwybr adref gyda chi. Pori casgliad Dillad
Yr anrheg ddelfrydol
Cymerwch olwg ar ein siop am yr anrheg berffaith i ganmol a llongyfarch ffrind neu aelod o’r teulu sydd wedi bod yn cerdded y llwybr. Gadewch iddyn nhw wybod eich bod yn falch ohonyn nhw am gerdded un o’r llwybrau cerdded gorau yn y DU. Prynwch eich tystysgrif a’ch bathodyn
Prisiau addas i bawb
Rydym ni wedi creu ystod o nwyddau sy’n addas i bob poced, gan amrywio o £45 am hwdi i £8 am fwg.