Gwyriadau dros dro
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu.
Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser.
Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Gwynedd
Gwaith uwchraddio Traphont Bermo Network Rail 2020 - 2022
Bydd gwaith mawr uwchraddio’r draphont 150 oed yn dechrau ym mis Medi 2020. Bydd yn effeithio ar y llwybr gan ei fod yn croesi’r draphont dros Aber Mawddach ac yn mynd yn ei flaen tua’r de i gyfeiriad Fairbourne. Yn ystod y gwaith uwchraddio hwn bydd y bont yn cau dros dro ar rai dyddiadau.
Edrychir ar y posibilrwydd o ddarparu llwybr arall ar gyfer cerddwyr ar y llwybr a byddwn yn rhoi gwybod ichi ar y dudalen hon. Os ydych yn bwriadu cerdded yn yr ardal hon, awgrymwn eich bod hefyd yn dilyn cyfryngau cymdeithasol Network Rail i gael diweddariadau.
• Dilynwch Twitter Network Rail Wales and Border i gael diweddariadau. Enw Twitter @NetworkRailWAL
• Darllenwch am Waith Uwchraddio Traphont y Bermo a chwestiynau cyffredin
• Darllenwch Ddiweddariad Network Rail Medi 2020
Pont yr Aber, y bont droi i gerddwyr yng Nghaernarfon
5 Gorffennaf 2022
Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau
Ynys Môn
16/06/2021 Moelfre: Cerddwyr wedi'u cyfeirio trwy Ystâd Nant Bychan ac ar hyd ffordd yr A5108 i mewn i Moelfre.
Tabl wedi'i ddiweddaru 07.12.2022
Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
Conwy | Promenad Hen Golwyn | Gwaith ar amddiffynfa fôr | cy | tan 01-04-2024 |
Ddinbych | Rhyl, Splash Point | Gwaith ar amddiffynfa fôr | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Gaerfyrddin | Pembrey | Cymraeg | hyd nes y ceir rhybudd pellach | |
Gwynedd | Barmouth | National Rail Works | tan 03-12-2023 | |
Ynys Mon | TEST CY | TEST CY | hyd nes y ceir rhybudd pellach | |
Ynys Mon | TEST CY 2 | TEST CY 2 | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Diweddarwyd ddiwethaf 07 Rhag 2022