Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
21 Mis Ebrill 1926 i 8 Mis Medi 2022
Mae Celf Coast Cymru yn ffrwydrad celfyddydol sy’n crisialu ysbryd y llwybr drwy gyfrwng celfyddyd a barddoniaeth.
Cafodd 10 artist a 10 bardd eu gwahodd i dalu teyrnged i’w rhan arbennig nhw o lwybr yr arfordir yn ystod ein dathliad 10 mlynedd gan grisialu ysbryd y llwybr cyfan mewn ffordd unigryw.
Mae’r cysylltiad rhwng natur, diwylliant unigryw Cymru, treftadaeth ac iaith, ac arfordir Cymru wedi dod yn fyw yng ngwaith yr artistiaid a’r beirdd.
Drwy ddod â’u gwaith unigryw at ei gilydd, 10 cerdd a 10 celf, maen nhw wedi creu siwrne i ni ar hyd llwybr sy’n unigryw ac yn arbennig i bawb sy’n ei brofi. Mae’r cerddi i gyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi eu cyfieithu gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Mae’r prosiect wedi’i guradu gan yr artist Dan Llywelyn Hall
Gallwch chi weld y casgliad unigryw hwn o gelf a barddoniaeth yn y byd go iawn neu ar-lein.
Golwg breifat o gelf, paentiadau a lluniau gan yr artistiaid a gomisiynwyd.
Ymunwch â Dan Llywelyn Hall i am gyfle gwych i gyfarfod yr artistiaid a chael eich ysbrydoli gan eu golygon unigryw nhw o’u hoff rannau o arfordir Cymru.
Bydd modd i chi weld brodwaith cymhleth ar ffabrig, wedi ei ysbrydoli gan y rhan arfordirol sy’n ymestyn o Harlech i Dal-y-bont, gwaith ysgythru coed yn darlunio’r hen goedwig a foddwyd yn nhraeth Borth, ac olew ar gynfas sy’n cynnig myfyrdod wrth edrych tua’r tir neu allan i’r môr.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Ucheldre, Millbank, Caergybi,Ynys Môn. LL65 1TE tan 14 Chwefror 2023 gyda chyfle i brynu’r darnau. Cadwch lygad ar dudalen y digwyddiad ar Facebook am ddiweddariadau.
Digwyddiad i lansio casgliad cyfan Celf Coast Cymru.
Mae’r lansiad hwn yn gyfle arbennig i weld pob un o’r 10 darn o waith celf a’r 10 cerdd mewn un lle – pob un yn dweud ei hanes ei hun am Lwybr Arfordir Cymru.
Wedi ei leoli ar y llwybr ei hun, mae’r Eglwys Norwyaidd yn lleoliad delfrydol i arddangos y casgliad unigryw hwn o waith celfyddydol sy’n cwmpasu 870 milltir un o’r unig lwybrau yn y byd sy’n dilyn arfordir gwlad yn ddi-dor.
Mae croeso cynnes i bawb – galwch draw a chymerwch eich amser i ymdrochi, archwilio a phrofi gwahanol olygon o arfordir Cymru – beth maen ei gynnig i ni, heddiw ac i’r dyfodol.
Bydd y gwaith i gyd yn cael ei arddangos am tua 3 wythnos yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, CF10 4PT. Cysylltwch â Dan Llywelyn Hall am ragor o fanylion
Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod i un o’r digwyddiadau. Rydym ni wedi creu ychydig o fideos byr fel bod modd i chi weld a chlywed y gwaith o ble bynnag yr ydych chi - ar gael o Mis Ionawr ymlaen.
Gallwch weld y diweddaraf am y digwyddiadau drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol ar @walescoastpath a thanysgrifio i gael diweddariadau yn ein cylchlythyr.