Diweddariad diwethaf 06 Mis Ionawr 2022

Mae’r mesurau ynyg Ngymru yn wahanol i’r rhai a geir yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r rheoliadau a’r canllawiau’n medru newid ar fyr rybudd, felly os ydych yn ymweld yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig, fod bynnag, bod pawb yn dilyn y cyfyngiadau a’r canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llwybr Arfordir Cymru'n rhoi cyfleoedd pwysig i bobl hamddena a chael ymarfer corff, ac maent ar agor yn llwyr i bobl eu defnyddio’n gyfrifol.

Y sefyllfa yng Nghymru 

Darllenwch y cyfyngiadau am lefelau rhybudd COVID-19 cyfredol yng Nghymru

Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl i'r llwybr i'w fwynhau'n ddiogel unwaith eto.

Ymweld a’r llwybr yn ddiogel

Mae'r llwybr cyfan ar agor ac nid oes unrhyw gau oherwydd y coronafeirws. Dyma chwe cham i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel tra'n cael amser gwych ar y llwybr. Chwiliwch am unrhyw wyriadau llwybr – ewch i'n tudalen gwyriadau llwybrau dros dro diweddaraf

Chwe cham i ddychwelyd yn ddiogel

Cyn eich ymweliad:

• Cynlluniwch ymlaen llaw - cadarnhewch beth sydd ar agor ac ar gau cyn dechrau. Paciwch hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb.
• Ceisiwch osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gwnewch gynllun wrth gefn rhag ofn bod eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd.


Tra byddwch chi yno:

• Parciwch yn gyfrifol – parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon na rhwystro llwybrau mynediad brys.
• Dilynwch y canllawiau – cydymffurfiwch ag arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch Covid-19 i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
• Ewch â'ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a'r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad.
• Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – cadwch at lwybrau, gadewch gatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw cŵn.

Ymgyrch Addo Croeso Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cefnogi ymgyrch Addo Croeso Cymru, sy’n gofyn i bobl Cymru wneud addewid i ofalu am ein gilydd, ein tir a’n cymunedau wrth ddechrau crwydro eu cymunedau lleol unwaith eto. Gellir llofnodi'r adduned ar y wefan www.croeso.cymru/cy/addo 

Gwybodaeth bellach