Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
21 Mis Ebrill 1926 i 8 Mis Medi 2022
Y ffordd orau o ddathlu'r llwybr yw bod yn chwilfrydig a dod i'w fwynhau drosoch eich hun.
Dewch o hyd i gyfoeth o wybodaeth i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad fel amserlenni, map rhyngweithiol, tablau pellter, teithlyfrau a dargyfeiriadau dros dro ar y llwybr.
Dewch i ddarganfod sut y gallwch chi ymuno â ni i ddathlu ein dengmlwyddiant trwy gydol 2022 - dyma ddolenni defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd.
Rydym ni’n defnyddio lliw map haen graddfa 1:25 000 yr Arolwg Ordnans. Mae ein map yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban, ac mae’n dangos y dirwedd yn fanwl yn ogystal ag ystod eang o hawliau tramwy e.e. llwybrau troed, llwybrau ceffyl a Llwybrau Cenedlaethol e.e. Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr yma yng Nghymru.
Tynnwch linell i ddechrau cynllunio eich llwybr o'ch man cychwyn i'ch man gorffen i ddarganfod y pellter mewn milltiroedd a chilometrau. (Llinell Llwybr Arfordir Cymru yw’r llinell ddiemwnt werdd, ar yr arfordir neu mor agos at yr arfordir â phosibl). Ewch i'r fap rhyngweithiol llwybr yr arfordir i ddarganfyddwch ble mae rhan agosaf y llwybr i chi
Rydym ni wedi llunio detholiad gwych ac amrywiol o amserlenni thematig ar hyd y llwybr 870 milltir / 1,400 km i’ch ysbrydoli i ddod i grwydro.
Gyda dros 100 o teithiau cerdded unigol, dyma ragflas o’r hyn sydd gennym ni ar eich cyfer chi:
Dewch o hyd i'ch amserlen Llwybr Arfordir Cymru
Mae gennym ni gasgliad o rannau o’r llwybr sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â bygis a phobl â phroblemau symudedd. Dewch o hyd i rannau hygyrch o'r llwybr
Mae ein hamserlenni llwybr arfordir i gestyll yn berffaith os ydych chi eisiau darganfod mwy am y cestyll sydd ar hyd y llwybr (mae tipyn ohonyn nhw). Yn amrywio o 3 milltir / 5km i 12 milltir / 19km, mae pob amserlen yn cynnig taith gerdded arfordirol wych ynghyd ag ymweliad â chastell (sy’n cael ei warchod gan Cadw) – am ddiwrnod gwych. Dewch o hyd i teithiau cerdded Cadw yn eich ardal chi
Rydym ni'n gwybod bod llawer ohonoch chi wedi cerdded rhywfaint ohono neu'r llwybr cyfan ond does ganddoch chi nhw ddim byd i'w ddangos amdano... tan nawr.
Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi bod ein detholiad o nwyddau swyddogol Llwybr Arfordir Cymru ar gael i’w prynu ar-lein o fis Mai 2022.
O gofroddion defnyddiol fel mygiau a chylchoedd allwedd i hwdis a chrysau-t chwaethus, rydym ni’n siŵr bod rhywbeth at ddant pawb. Ein nwyddau yw’r cofrodd perffaith i goffau eich ymroddiad i'r llwybr i’w harddangos gyda balchder i'ch ffrindiau a'ch teulu.
Mae ein detholiad hefyd yn anrheg Llongyfarchiadau delfrydol pan fo rhywun yn gorffen cerdded yr holl 870 milltir / 1,400 km. Siopwch ar-lein yn ein siop Llwybr Arfordir Cymru
Rydym ni wedi ymuno â chyhoeddwr swyddogol teithlyfrau Llwybr Arfordir Cymru, Northern Eye Books, i greu fersiwn Gymraeg o un o’r teithlyfrau.
Teithlyfr Penrhyn Llŷn, sy’n cwmpasu Bangor i Borthmadog yn y gogledd, yw’r ffordd berffaith o grwydro rhan hon y llwybr yn iaith y nefoedd – perffaith ar gyfer dysgwyr yn ogystal â siaradwyr Cymraeg. Pris £15.99, ar gael i'w brynu o bob siop lyfrau dda a Chyngor Llyfrau Cymru
Cadwch mewn cysylltiad â ni yn y ffyrdd canlynol:
Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed gyda phob un ohonoch - ac fe welwn ni chi yn 2022!