Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
21 Mis Ebrill 1926 i 8 Mis Medi 2022
I nodi ein dengmlwyddiant, rydyn ni wedi ymuno â Promotional Warehouse i gyflwyno arlwy o nwyddau arbennig – yn cynnwys casgliad o ddillad ac ategolion cynaliadwy sy'n sy’n ymarferol ac yn adlewyrchu ysbryd Llwybr Arfordir Cymru.
Oherwydd ein cariad at yr awyr agored a phwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol, mae ein cynhyrchion yn defnyddio deunyddiau a phecynnau bioddiraddadwy ac ecogyfeillgar. Ar ben hynny, gyda phob cynnyrch y byddwch yn ei brynu, rydych chi’n gwarchod yr amgylchedd ac yn cefnogi gwaith i gynnal a chadw Llwybr Arfordir Cymru.
Byddwn hefyd yn cyflwyno nwyddau ychwanegol i nodi Dengmlwyddiant y Llwybr dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cydweithio â chyflenwyr lleol i gynnig arlwy eang o gynhyrchion o ansawdd uchel fel bwyd a diod, gemwaith, printiau celf a llawer mwy. Felly cadwch lygad am newyddion cyffrous.
Ewch draw i’n cyfri Instagram i weld sut i fod yn rhan o’n cystadleuaeth lansio arbennig.
Y tonnau’n llifo’n rhythmig, y gwynt hallt yn eich ffroenau, a’r bywyd gwyllt helaeth y gallwch ei weld a’i glywed o’ch cwmpas - nid yw’n syndod bod arfordir Cymru yn gefndir perffaith i lawer o baentiadau gan artistiaid.
Fel ffordd o gefnogi talentau lleol a thalentau newydd ledled Cymru, rydym yn annog pobl i gyflwyno eu dyluniad eu hunain i gael ei ystyried ar gyfer ein casgliad o nwyddau yr haf hwn.
Rydym am weld ceisiadau sy’n crynhoi Llwybr Arfordir Cymru ar ffurf lluniau.
Efallai y gallech gymryd ysbrydoliaeth o'r hyn rydych chi'n ei glywed, ei deimlo, ei weld a'i arogli pan fyddwch chi ar y llwybr.
Neu beth am archwilio sut rydych chi'n teimlo ar ôl mynd am dro braf ar y llwybr, cymryd ysbrydoliaeth o'ch taith a sut mae'n gwneud i chi deimlo wrth i chi ymlwybro o un gornel o’r llwybr i'r llall.
Rydym yn gwybod bod llawer o gariad at y llwybr, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld eich holl geisiadau.
E-bostiwch lun clir o'ch dyluniad atom: wcp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ceisiadau i'w cyflwyno ar ffurf PDF, PNG neu JPG. Dim ond dros e-bost y gallwch gyflwyno’ch cais. Cofiwch roi eich enw ar eich e-bost os gwelwch yn dda.
Bydd panel yn barnu ceisiadau a bydd y cais buddugol yn cael ei gyhoeddi ar ein sianeli cymdeithasol.
Caiff y ceisydd llwyddiannus y cyfle i weithio gyda Promotional Warehouse i greu cynnyrch arbennig – caiff union fanylion y bartneriaeth eu trafod ar ddewis enillydd.
Bydd y cais buddugol yn cael ei ddylunio ar eitem arbennig yn ystod y flwyddyn o ddathlu’r dengmlwyddiant.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch cais yw hanner nos 30 Mehefin 2022.
Pob lwc!