Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
21 Mis Ebrill 1926 i 8 Mis Medi 2022
Crwydro’r llwybr 870-milltir / 1,400-km yw’r ffordd orau o archwilio a dysgu am arfordir cyfoethog, amrywiol sy’n gweithio – a hynny yn ei holl ogoniant.
Mae 2022 yn flwyddyn arbennig i ni. Mae gennym rai pethau wedi’u trefnu drwy gydol y flwyddyn fel y gall pawb ymuno, ar hyd a lled y wlad.
Edrychwch ar ein gwefan a’n sianeli cymdeithasol, @walescoastpath i gael newyddion a diweddariadau a dysgu sut i ymuno yn yr hwyl.
Cadwch mewn cysylltiad drwy danysgrifio i’n cylchlythyrau. Chwiliwch am y pwnc Llwybr Arfordir Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed gyda phob un ohonoch - ac fe welwn ni chi yn 2022!
Rydym wedi creu’r adnoddau canlynol sydd wedi’u dylunio i goffáu ein blwyddyn arbennig.
Byddant yn rhoi blas i chi o’r hyn sy’n gwneud y llwybr yn arbennig ac yn unigryw ac yn darparu rhai adnoddau ymarferol. Gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich deunydd marchnata a chyfathrebu i helpu i nodi ein degfed pen-blwydd a rhoi rhagor o sylw i’r llwybr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, Cysylltwch â Ni.
Canllaw ar sut i ddefnyddio asedau’r degfed pen-blwydd mewn deunydd marchnata a chyfathrebu ac mae’n dangos sut mae’r prif logos a’r logos eilaidd yn edrych a sut maen nhw’n cael eu defnyddio ochr yn ochr â brandiau eraill. Mae logos y degfed pen-blwydd ar gael i’w lawrlwytho ar gyfer eich deunydd marchnata a chyfathrebu yn ystod 2022.
Mae amrywiaeth o logos sy’n addas ar gyfer dyluniadau gwahanol, yn lliwiau ein brand a du a gwyn – defnyddiwch nhw yn ôl eich anghenion. Maen nhw ar gael ar ffurf JPEG, EPS a PDF. Lawrlwytho canllaw asedau a logos o gwefan Visit Wales Assets.com (angen cofrestru).
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am y llwybr gyda ffeithiau a ffigurau diddorol a beth sy’n newydd ar gyfer 2022 - – wedi’i ddylunio ar gyfer newyddiadurwyr, ysgrifenwyr a dylanwadwyr sydd am rannu cynnwys am y llwybr. Darllenwch ein pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd
Yr adnodd ar-lein hwn sy’n rhoi syniadau i fusnesau sydd ar y llwybr neu’n agos ato er mwyn gwneud y gorau o’i atyniad yn eu deunydd hyrwyddo’u hunain. Mae wedi’i ddiweddaru gyda deunydd ar gyfer y degfed pen-blwydd a gwybodaeth ychwanegol. Lawrlwytho ein pecyn cymorth busnes (PDF, 5.19MB)