Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd
Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd...
Darllenwch ein hadroddiadau ar effaith Llwybr Arfordir Cymru ar iechyd, economi twristiaeth Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddwyr y llwybr
Mae’r llwybr arfordir hyn yn cyfrannu’n helaeth at economi ymwelwyr Cymru. Er bod Llwybr yr Arfordir yn bwysig i economi Cymru, mae hefyd yn chwarae rhan bwysig drwy annog pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod a mwynhau’r awyr agored yng Nghymru, a’r manteision a ddaw yn sgil hyn i iechyd a lles pobl.
Yn ogystal â chael tua £2 filiwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr arfordir, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi clustnodi bron i £4 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi’r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyfodol tymor hir Llwybr Arfordir Cymru ac maent yn ariannu rhaglen newydd gwerth £1.15 miliwn er mwyn gwella’r Llwybr ymhellach yn ystod 2013/14.
Ein hadroddiadau yn sylw ar effaith Llwybr Arfordir Cymru ar iechyd, economi twristiaeth Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddwyr y llwybr. Comisiynwyd adroddiadau sy'n edrych ar yr effeithiau economaidd a’r manteision iechyd a geir o gerdded y llwybr. Mae adroddiad yr arolwg ymwelwyr diweddaraf yn 2015 i’w gael hefyd, sy’n edrych ar nifer y bobl sy'n cerdded y llwybr a’n datgelu gwybodaeth ddemograffig ddefnyddiol a diddorol am ein cwsmeriaid.
Gellir lawrlwytho'r adroddiadau fel ffeiliau PDF.