Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
21 Mis Ebrill 1926 i 8 Mis Medi 2022
Mae Northern Eye Books, cyhoeddwyr swyddogol cyfres o deithlyfrau yn Saesneg, bellach wedi creu un o'r llyfrau hynny yn yr iaith Gymraeg ar gyfer un o'r rhannau mwyaf poblogaidd o Lwybr Arfordir Cymru.
Mae'r teithlyfr swyddogol ar gyfer cerdded ar ran Pen Llŷn o Lwybr Arfordir Cymru yn cwmpasu 110 milltir / 180 cilomedr – sydd yn sicr yn un o’r rhannau mwyaf pleserus o’r llwybr. Mae'r llyfr hwn yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr o bob math – rhai sy’n neud teithiau cerdded lleol, a’r rai sy’n neud teithiau hirach.
Yn rhedeg o Fangor i Borthmadog, gan gwmpasu Penrhyn Llŷn i gyd, mae'r llyfr yn rhoi trosolwg o hanes yr ardal, gwybodaeth am fywyd gwyllt, siartiau pellter, gwybodaeth ddefnyddiol am lety, gwybodaeth leol, a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym yn hapus iawn o allu lansio'r llyfr hwn yn ystod ein dathliadau dengmlwyddiant yn 2022. Mae canllaw Cymraeg swyddogol ar gyfer y llwybr yn gyfle gwych i ddysgu am arfordir Cymru yn iaith frodorol Cymru. Mae hefyd yn ffordd wych i bobl sy’n dysgu Cymraeg ymarfer yr iaith gan wneud rhywbeth braf.
Mae ar gael i'w brynu am £15.99 ym mhob siop lyfrau dda neu ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru
Ysgrifennwyd ‘Llwybr Arfordir Cymru – Penrhyn Llŷn, Bangor i Borthmadog’ gan Carl Rogers a Tony Bowerman yn y Saesneg gwreiddiol, ac mae wedi’i addasu i'r Gymraeg gan Elfed Gruffudd ar ran Atebol
Dyma'r canllaw Cymraeg swyddogol ar gyfer rhan Pen Llŷn o Lwybr Arfordir Cymru, gyda chymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
ISBN: 9781914589072 (1914589076)
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2022
£15.99
Caiff y llyfr ei ddosbarthu gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am ganllawiau eraill Llwybr Arfordir Cymru ar gael ar ein tudalen Cynllunio’ch Ymweliad